P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emily Jones, wedi iddi gasglu 121 o lofnodion ar-lein a 165 ar bapur, sef cyfanswm o 286 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd drwy Gymru ac y caiff y cynnwys ei adolygu bob blwyddyn gan fwrdd o bobl ifanc etholedig.
Gwybodaeth ychwanegol
Byddai cwricwlwm sgiliau bywyd yn cynnwys pynciau fel: cyllid, rhyw a pherthnasoedd, gwleidyddiaeth a sgiliau byw sylfaenol. Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn dweud bod gan blant yr hawl i addysg. Mae'r cwricwlwm cenedlaethol, fodd bynnag, yn methu â darparu'r sgiliau bywyd y mae eu hangen arnom.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pontypridd
· Canol De Cymru